Amdanom ni

Dewch i gael blas arNhCF11 Ffitrwydd, yr ystafell ffitrwydd newydd ei hadnewyddu a’i hehangu yn Nhrem y Môr!

Gyda’r holl gyfarpar TechnoGym cyfoes diweddaraf, bydd yr 85 o safleoedd ymarfer corff yn cynnig popeth y bydd ei angen arnoch i gyflawni eich nodau ffitrwydd.

Wrth weithredu ein hymrwymiad i gyflwyno ymarfer corff a hyfforddiant i bob oed a gallu, rydym wedi ychwanegu campfa i fenywod yn unig a dosbarthiadau ymarfer corff i grwpiau.

Mae’r ardal iechyd a ffitrwydd yn cynnig amrywiaeth wych o gyfarpar ymarfer cardiofasgwlaidd, gwrthiant a swyddogaethol, heb sôn am olygfeydd heb eu hail dros Afon Taf. Mae’r holl beiriannau’n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf i’ch galluogi i dracio a monitro’r holl weithgareddau a wnewch yn y gampfa neu yn yr awyr agored, trwy app mywellness Technogym.

Yng nghanol y gymuned leol, bydd croeso cynnes yn aros amdanoch gan staff cyfeillgar y ganolfan, a bydd ein tîm o hyfforddwyr ffitrwydd cymwys wrth law i’ch arwain trwy sesiwn sefydlu. Felly dewch lawr i CF11 Ffitrwydd fel y gallwn ni eich tywys o gwmpas ein hystafell ffitrwydd newydd sbon!

CF11 Fitness

Oriau Agor

Dydd Llun 07.15 – 22.00
Dydd Mawrth 09.00 – 21.00
Dydd Mercher 07.15 – 22.00
Dydd Iau 09.00 – 21.00
Dydd Gwener 07.15 – 17.00
Dydd Sadwrn 09.00 – 16.00
Dydd Sul 09.00 – 16.00

Y manteision o ymuno â ni

CF11 Fitness Membership

Y peiriannau pwysau Technogym diweddaraf

Ardal pwysau rhydd

Ystafell gardiofasgwlaidd â system aer dymheru

Campfa ar wahân â 15 safle i fenywod yn unig.

Caeau pêl-droed 3G dan do ac awyr agored.

Ymunwch Nawr

Sut i ddod o hyd i ni

Jim Driscoll Way,
Grangetown,
Caerdydd,
CF11 7HB

© CF11 Ffitrwydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd