Aelodaeth

Am £20 y mis yn unig cewch aelodaeth lawn o CF11 Ffitrwydd.

Mae aelodaeth yn cynnwys defnydd o’r gampfa a phob dosbarth ffitrwydd yn ein rhaglen.

Ni chodir ffi ymuno ychwanegol ac nid oes angen poeni am gontractau hir.Os ydych byth am adael, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi rhybudd mis i ni.

Sut mae ymaelodi?

Dewch i’r ganolfan i edrych o gwmpas. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich manylion banc i sefydlu debyd uniongyrchol a dull o dalu mis cyntaf yr aelodaeth wrth y ddesg.

Oes rhaid i mi fod yn aelod i ddefnyddio’r ganolfan?

Nac oes, gallwch dalu am ddosbarthiadau unigol ond mae’n llawer rhatach os cofrestrwch i fod yn aelod.

 

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, mae croeso i chi alw heibio i ymweld â ni a bydd rhywun wrth law i’ch helpu.

Hefyd gallwch gysylltu â ni

Or call 029 2037 8161

© CF11 Ffitrwydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd